Book > Llyfrau Darllen y Testament Newydd Groeg > Efengyl Ioan: Llyfr Darllen Groeg

Efengyl Ioan: Llyfr Darllen Groeg

Translated by Gwilym Tudur

Book 5 in Llyfrau Darllen y Testament Newydd Groeg

Buy on Amazon

Dyma lyfr darllen Groeg ar gyfer Efengyl Ioan. Efengyl Ioan yw un o’r ffynonellau hawsaf i’w darllen yn y Testament Newydd gan ei bod yn ailadrodd nifer o’r un geiriau gan gadw at gystrawen anghymhleth. Mae symlrwydd y geiriau a’r gystrawen ynghyd â’r hanesion cyfarwydd yn golygu bod Ioan yn aml yn destun gosod ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau darllen Groeg. Mae'r gyfrol hon wedi'i chynllunio fel adnodd defnyddiol a rhad ar gyfer dau grŵp o bobl. Yn gyntaf, bwriad y llyfr yw cynorthwyo myfyrwyr sydd wedi astudio blwyddyn o Roeg Coine (Groeg y Testament Newydd) er mwyn iddynt fagu hyder wrth ddarllen y testunau Groeg gwreiddiol. Yn ail, mae'r llyfr wedi'i gynllunio ar gyfer gweinidogion, ysgolheigion ac unrhyw ddarllenwyr lleyg sy'n dymuno dyfalbarhau i ddysgu Groeg a'i defnyddio wrth astudio, pregethu a dysgu'r Beibl.

Mae’r llyfr hwn yn trwytho'r darllenydd yn y testunau Beiblaidd ac o ganlyniad gall fagu hyder yn gyflym wrth ddarllen Groeg. Er mwyn cyflawni hyn, mae pob gair anghyffredin sy'n ymddangos 30 o weithiau neu lai yn y Testament Newydd Groeg yn cael ei egluro mewn troednodyn. Mae hyn yn galluogi'r darllenydd i ddyfalbarhau i ddarllen pob darn o'r testun yn ddirwystr. Mae'r llyfr hwn felly'n mynd law yn llaw â'r cyfrolau gramadeg traddodiadol ac yn arbennig o ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a myfyrwyr canolradd sy'n dysgu darllen Groeg. Fodd bynnag, bydd hyd yn oed darllenwyr mwy profiadol yn gwerthfawrogi cael esboniad o'r geiriau prin gan fod hyn yn arbed amser wrth ddarllen y testun. Hefyd, yn wahanol i lyfrau darllen eraill, mae’r gyfrol hon yn hylaw ac yn ysgafn ac felly'n hawdd i’w chario o gwmpas a'i darllen.

Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys:

  • Mapiau Beiblaidd yn yr iaith Roeg
  • Tablau gramadegol o enwau a berfau
  • Rhestr eirfa o'r holl eiriau nad ydynt wedi'u hegluro o dan y testun
  • Ymylon eang i'r dudalen er mwyn gwneud nodiadau

Y testun sylfaenol yw Testament Newydd Groeg y Gymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd (SBLGNT) sy'n argraffiad modern delfrydol ar gyfer darllenwyr.

Sorry, your device is unable to display the PDF file. Please try viewing in another device or instead click:

Download


Product details

Publisher : Timothy A. Lee Publishing (21 Jan. 2025)

Languages : Ancient Greek, Welsh

Contains : John

Paperback : 138 pages

Dimensions : 6 x 0.31 x 9 in (15.24 x 0.79 x 22.86 cm)

Paper : Cream

ISBN : 978-1-83651-091-8


Also available in this series